Polisi preifatrwydd y busnes
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn amlinellu sut mae Cadwyn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i Cadwyn pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon.
Mae Cadwyn wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth benodol a fyddai’n dangos pwy ydych chi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, gallwn eich sicrhau y bydd yr wybodaeth honno’n cael ei defnyddio’n unol â’r datganiad preifatrwydd hwn.
Efallai y bydd Cadwyn yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech edrych ar y dudalen yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae’r polisi hwn yn weithredol o 30ain Gorffennaf 2011 ymlaen.
Yr wybodaeth a gesglir gennym
Mae’n bosib y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth a gesglir gennym
Mae angen yr wybodaeth hon arnom i ddeall eich anghenion ac i ddarparu gwasanaeth gwell ar eich cyfer, ac yn fwyaf arbennig am y rhesymau canlynol:
Diogelwch
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. Er mwyn sicrhau nad oes neb heb awdurdod yn cael mynediad at eich gwybodaeth nac yn ei datgelu, rydyn ni wedi cyflwyno gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas i ddiogelu’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu ar-lein a’i chadw’n ddiogel.
Defnyddio cwcis
Ffeil fach sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei rhoi ar ddisg galed eich cyfrifiadur yw cwci. Ar ôl i chi gytuno, bydd y ffeil yn cael ei hychwanegu a bydd y cwci yn helpu i ddadansoddi traffig gwe neu’n rhoi gwybod i chi pan rydych chi’n mynd i wefan benodol. Mae cwcis yn caniatáu i raglenni gwe ymateb i chi fel unigolyn. Gall y rhaglen we deilwra ei gweithrediadau yn ôl eich anghenion, yr hyn rydych chi’n ei hoffi, a’r hyn nad ydych chi’n ei hoffi, drwy gasglu gwybodaeth am eich dewisiadau a’u cofio.
Rydyn ni’n defnyddio cwcis cofnodi traffig i weld pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data ynglŷn â thraffig tudalennau gwe ac i wella ein gwefan er mwyn ei theilwra i fodloni anghenion y cwsmeriaid. Dim ond at ddibenion dadansoddi ystadegol y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon, a bydd y data wedyn yn cael ei ddileu o’r system.
Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i roi gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddiol i chi, a pha rai sydd ddim. Nid yw cwci, mewn unrhyw ffordd, yn ein galluogi i gael mynediad at eich cyfrifiadur nac i unrhyw wybodaeth amdanoch chi, ac eithrio data rydych chi’n dewis ei rannu â ni.
Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer, gallwch addasu gosodiadau eich porwr er mwyn gwrthod cwcis os yw’n well gennych chi. Gallai hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.
Dolenni at wefannau eraill
Mae’n bosib y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio’r dolenni hyn i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch na phreifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei datgelu pan fyddwch yn ymweld â gwefannau o’r fath, ac nid yw gwefannau o’r fath yn dod o fewn cwmpas y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a darllen datganiad preifatrwydd y wefan dan sylw.
Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Gallwch ddewis cyfyngu ar yr wybodaeth bersonol a gesglir neu a ddefnyddir yn y ffyrdd canlynol:
Ni fyddwn yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn prydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai ein bod wedi derbyn eich caniatâd neu ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i anfon deunyddiau hyrwyddo atoch am drydydd partïon a allai fod o ddiddordeb i chi os dywedwch wrthym eich bod am i hyn ddigwydd.
Gallwch wneud cais i weld manylion gwybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd angen talu ffi fechan. Os hoffech chi gael copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, ysgrifennwch atom yn 197 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 1AJ.
Os ydych chi’n credu bod unrhyw wybodaeth a gedwir gennym yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch neu anfonwch e-bost atom cyn gynted â phosib, i’r cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir ar unwaith.