Hygyrchedd

Er mwyn sicrhau bod y wefan hon yn parhau i ddatblygu fel adnodd cyfredol a hygyrch, byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod i ni os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r safle hwn, er enghraifft, os ydych chi’n cael trafferth gweld cynnwys gwahanol rannau o’r safle neu os nad yw’n cyd-fynd â thechnoleg gynorthwyol.

Os oes gennych chi unrhyw syniadau ynghylch sut gellid gwella neu ddatblygu’r safle hwn ymhellach, rhowch wybod i ni drwy anfon neges e-bost at info@cadwyn.co.uk neu ein ffonio ar 029 2049 8898

Rydyn ni’n gwneud ein gorau i sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio ein gwefan. Os ydych chi’n cael anawsterau wrth gael mynediad at y wefan neu wrth ei defnyddio, cysylltwch â ni:

Tai Cadwyn, 197 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 1AJ

Llywio

Os ydych chi’n ei chael yn anodd defnyddio llygoden, gallwch ddefnyddio’r botwm TAB a’r saethau i fynd o amgylch prif rannau’r wefan. Defnyddiwch TAB i amlygu dolenni, a chliciwch ENTER er mwyn mynd i’r dudalen honno.

Cynyddu maint y dudalen

Gyda’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron personol a phorwyr, gallwch gynyddu maint y dudalen drwy wasgu CTRL a +. I leihau maint y dudalen, gwasgwch CTRL a -. (Os mai Mac sydd gennych chi, gwasgwch APPLE a +/-).