Ym mis Gorffennaf, ymunodd Cadwyn â’r byd rhyngweithiol gan drydar am y tro cyntaf ar Twitter, a ffurfio grŵp ar Facebook, sef Get Involved @ Cadwyn.
Mae’r grŵp Facebook yn galluogi tenantiaid i gael y manylion diweddaraf am newyddion a digwyddiadau! Bydd yn cael ei ddiweddaru’n gyson gan Kath Williams, Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid Cadwyn. Mae tudalennau trafod ar gael hefyd, yn ogystal â dolenni at fudiadau defnyddiol eraill a gwefannau ac arolygon a fydd yn ein helpu i wella ein gwasanaethau i denantiaid.
Mae Cadwyn ar Twitter – chwiliwch am @CadwynHA – a dilynwch ni i gael y newyddion diweddaraf ar y we neu’n syth ar eich ffôn symudol.
Rydyn ni’n gwybod nad oes gan bawb gyfrifiadur wrth law, ond rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o gael adborth gan denantiaid – yn enwedig y rheini nad ydynt, o bosib, yn gallu dod i gyfarfod neu i ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu trefnu. Rydyn ni hefyd am wneud yn siŵr ei bod mor hwylus â phosib i bobl gadw mewn cysylltiad â ni, cael gwybod beth sydd ar y gweill, a chael dweud eu dweud, felly mae safleoedd megis Twitter a Facebook yn rhoi ffordd arall i ni wneud hyn, ochr yn ochr â’n ffyrdd presennol.
Yn ddiweddar, mae Clwb Camera Cadwyn wedi cychwyn grŵp ar wefan rhannu lluniau flickr. Mae hwn yn safle gwych sy’n galluogi pobl ym mhob cwr o’r byd i lwytho eu ffotograffau i fyny a’u rhannu – yn ogystal â chael sylwadau ac adborth gan bobl am y ffotograffau hynny. Bydd y Clwb Camera yn llwytho eu lluniau i fyny’n rheolaidd, felly ewch i weld rhai o’r lluniau arbennig maen nhw wedi’u tynnu… cysylltwch â Kath Williams yn y swyddfa (neu ymunwch â’n grŵp Facebook!) os hoffech chi gael gwybod pryd mae eu cyfarfod nesaf.
Mae Chatback i Denantiaid hefyd wedi cychwyn grŵp Facebook. Nid yw hyn – ar hyn o bryd – yn cymryd lle’r cylchlythyr sy’n cael ei anfon at denantiaid, ond mae’r grŵp wedi cael ei sefydlu er mwyn cael eich syniadau, eich erthyglau a’ch sylwadau cyffredinol ar gyfer y cylchlythyr rhwng bob rhifyn.
Mae’r grŵp ‘So Shall I’s’ yn dal yn gweithio ar ei brosiect Grant Grymuso Tenantiaid gyda TPAS Cymru er mwyn datblygu ei wefan ei hun. I gymryd rhan, ac i gael manylion am hyfforddiant a gweithgareddau eraill, cysylltwch â Kath Williams.