
Staff Cadwyn yn cwrdd â Dolly yn ei chyngerdd yng Nghaerdydd
Rydym yn sefydlu ‘Imagination Library’ gyntaf Cymru, rhaglen a sefydlwyd yn wreiddiol gan Dolly Parton yn ei thref enedigol sef Tennessee, UDA, yn 1996.
Mae’r rhaglen yn darparu llyfr rhad ac am ddim, addas i’w hoedran, i bob plentyn a gofrestrwyd, bob mis hyd eu pen-blwydd yn 5 oed. Bwriad y rhaglen yw gwella sgiliau llythrennedd plant drwy roi mynediad i rieni at lyfrau, waeth beth fo’u hincwm. Yn dilyn llwyddiant y rhaglen yn Tennessee, mae hi bellach wedi cael ei chyflwyno ledled America, Canada a’r DU.
Fel rhan o’r rhaglen Imagination Library, rydym hefyd yn sefydlu clwb darllen ar gyfer rhieni a phlant i wella sgiliau llythrennedd ymhellach ac i annog rhieni a phlant i ddarllen gyda’i gilydd.
I helpu ariannu’r rhaglen fe drefnwyd cystadleuaeth pêl-droed gennym yn ddiweddar, ar gyfer staff, tenantiaid, cymdeithasau tai eraill, contractwyr a chyflenwyr, a gododd dros £1000. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth a’n helpu i godi’r swm anhygoel hwn.
Mae cadwyn bellach yn sefydlu’r Imagination Library gyntaf yng Nghymru, ar gyfer plant ein tenantiaid, ein staff ac aelodau’r bwrdd. Byddwn yn lansio’r rhaglen yn swyddogol ar Hydref 28ain yn ein swyddfa. Mae croeso i’r holl denantiaid sydd â phlant dan 5 oed ddod i’r digwyddiad a chanfod mwy am y rhaglen. Yna bydd modd i chi gofrestru eich plentyn – yn rhad ac am ddim.
Os hoffech fod yn bresennol yn y lansiad ar Hydref 28ain neu i gael unrhyw fanylion eraill, cysylltwch â Leynie Meagher ar 029 2049 8898 neu anfonwch e-bost at Leynie.Meagher@Cadwyn.co.uk