Search for news:

Archives by Month:

Archives by Subject:

Cadwyn yn lansio Cydweithfa Fwyd

Mae Cadwyn wedi lansio Cydweithfa Fwyd newydd ar gyfer tenantiaid a’r gymuned leol.

Karen King, y Rheolwr Gwasanaethau Cymorth, ar ddiwrnod lansio’r gydweithfa fwyd. Llun drwy garedigrwydd Media Wales.

Sefydlwyd y gydweithfa fwyd er mwyn galluogi’r tenantiaid i brynu ffrwythau a llysiau o ansawdd da am bris fforddiadwy.

Mae’r gydweithfa fwyd ar agor bob dydd Iau yn ein swyddfa yn 197 Heol Casnewydd, Caerdydd, ac mae croeso i bawb.

Karen King, ein Rheolwr Gwasanaethau Cymorth, sydd wedi sefydlu’r gydweithfa. Dywedodd: “Mae’r gydweithfa fwyd yn ffordd ardderchog i’r gymuned leol, yn enwedig y rheini ar incwm isel, gael gafael ar ffrwythau a llysiau ffres na fyddent yn gallu eu fforddio fel arall o bosib.”

Mae’r fenter ddiweddaraf hon yn enghraifft wych o’r ffordd y mae Cadwyn yn mynd yr ail filltir ac yn cyflawni mwy na dyletswyddau traddodiadol cymdeithasau tai, drwy ddarparu gwasanaethau ychwanegol a gwerthfawr i’n tenantiaid ac i’r gymuned leol.

This entry was posted on Monday, September 19th, 2011 by Jonathan

|