Tai â Chymorth

Cadwyn Supported Housing

Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl i oresgyn unrhyw anawsterau ac anfanteision maent yn eu hwynebu, i’w helpu i beidio bod yn ddigartref eto drwy roi sylw i’r rhesymau pam maent wedi bod yn ddigartref. Gwnawn hyn drwy alluogi pobl i gadw at nodau’u tenantiaeth i’w helpu i fyw bywydau hapus, iach a llawn, ac i gyfrannu at eu cymunedau.

Mae gennym amrywiaeth o dai â chymorth, sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol gennym ni a chan ein Darparwyr Cymorth Achredig eraill.

Nightingale House

Nightingale House yw ein hostel 26 ystafell. Mae’n cynnig llety diogel, dros dro i deuluoedd digartref sydd angen cymorth ac a atgyfeiriwyd atom gan Gyngor Caerdydd.

Mae’n cael ei staffio 24 awr y dydd gan weithwyr cefnogi hyfforddedig sy’n cydweithio’n agos â gwasanaethau gwirfoddol a statudol eraill i sicrhau bod oedolion a phlant yn ddiogel, yn cael cymorth priodol ac yn symud ymlaen i lety addas.

Gwasanaeth Cymorth i Denantiaid

Mae Cadwyn yn darparu gwasanaeth cymorth i’n tenantiaid i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gadw’u tenantiaethau. Mae Swyddogion Cymorth i Denantiaid yn cydweithio’n agos ag adrannau eraill Cadwyn ac ag asiantaethau allanol i sicrhau bod tenantiaid yn gallu manteisio ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae’r mudiadau yr ydym yn cydweithio’n agos â hwy’n cynnwys Gofal, Gofal a Chymorth Gwalia, MIND a A4e.

Hyfforddiant

Mae ein hadran Tai â Chymorth hefyd yn darparu hyfforddiant i sefydliadau allanol mewn meysydd fel Cynllunio Cymorth, Pellter a Deithiwyd ac Asesiadau Risg. Os hoffech gael gwybodaeth bellach am y cyrsiau hyn, cysylltwch â’n Rheolwr Tai â Chymorth, Richard Vaughan yn Richard.Vaughan@Cadwyn.co.uk

Mae’r asiantaethau cymorth eraill yr ydym yn gweithio â hwy’n cynnwys:

The Wallich, Church Army, Cymdeithas Tai Opportunity, Ategi, Bwrdd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Esgobaeth Llandaf, Ymddiriedolaeth Innovate, BAWSO, Cymorth i Ferched a Llamau.

This entry was posted on Monday, September 19th, 2011 by Jonathan