Rydym yn fudiad ‘dielw’ gyda’i wreiddiau yn y maes tai. Wedi’n lleoli yng Nghaerdydd, rydym yn darparu tai fforddiadwy o safon uchel i bobl o bob cefndir gan gynnwys pobl sengl, teuluoedd, pobl sydd wedi bod yn ddigartref yn y gorffennol, pobl o gefndir lleiafrif ethnig a phobl ar incwm isel. Rydym hefyd yn gweithredu mewn nifer o feysydd eraill, gan gynnwys:
Asiantaeth osod gymdeithasol, CanDo Lettings, sy’n darparu gwasanaethau gosod a rheoli i landlordiaid preifat ac sy’n cynnig dewis gwell o lefydd i fyw i bobl ddigartref.
Cynllun prydlesu sector preifat sy’n darparu llety dros dro i bobl ddigartref a atgyfeiriwyd atom gan y Cyngor.
Tai â chymorth ar gyfer pobl sydd angen cymorth i gadw’u tenantiaeth neu i oresgyn rhyw broblem neu’i gilydd.
Rydym hefyd yn darparu ac yn hwyluso cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl i’w helpu i gael gwaith.
Darparu cartrefi o ansawdd da ac adeiladu cymunedau drwy bartneriaeth ac arloesi.
Bod yn arweinwyr ac yn arloeswyr, gan alluogi pobl a chymunedau i gyflawni eu potensial.
Rydym yn anelu i gyflawni pedwar prif ganlyniad ym mhopeth a wnawn. Y rhain yw:
Drwy fonitro a gwerthuso’n gwaith gallwn wneud yn siŵr bod pobl yn well eu byd o ganlyniad i’r pethau rydym yn eu gwneud.
Mae ein gwerthoedd yn sail i’r holl bethau rydym yn eu gwneud a sut rydym yn eu gwneud.