Ein Staff

Mae Cadwyn yn cyflogi dros 60 o staff sy’n gweithio mewn adrannau sy’n benodol i’r meysydd gwasanaeth a ddarparwn:

Mae Gwasanaethau Cymunedol a Thai’n gyfrifol am:

  • Faterion yn gysylltiedig â thenantiaethau.
  • Rhent, taliadau, budd-daliadau a chyngor am arian.
  • Ymddygiad gwrth-gymdeithasol a materion yn gysylltiedig â chymdogion.
  • Cyfranogiad preswylwyr.
  • Gwasanaethau cymorth deiliaid.
  • Gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae’r adran Gwasanaethau Technegol yn gyfrifol am:

  • Sicrhau bod atgyweiriadau’n cael eu cwblhau i safon uchel.
  • Cynnal arolygiadau cynnal a chadw.
  • Gwelliannau, fel ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
  • Gwaith arfaethedig arall fel gwrthseinio a gosod offer tân.
  • Datblygu stoc tai newydd.

Mae gennym hefyd adrannau Cyllid, TG, Adnoddau Dynol a Chorfforaethol sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni gan amlaf, ond maent yr un mor bwysig wrth sicrhau bod y sefydliad yn effeithiol.

Ers 2006, rydym wedi cyflogi is-adran llafur uniongyrchol – o’r enw Cadwyn Works – sy’n gwneud llawer o’r gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn ein heiddo. Maent yn caniatáu i ni gael mwy o reolaeth uniongyrchol dros brydlondeb a safon y gwaith a gyflawnir, a hyd yn hyn maent wedi bod yn boblogaidd.

Gweithwyr y DLO

 

Mae Chris O'Meara, ein Prif Weithredwr, yn bennaeth ar y sefydliad ac mae hi’n uniongyrchol gyfrifol i’r Bwrdd Rheoli sy’n penderfynu sut mae’r sefydliad yn cael ei reoli.

Back to Top

Get Adobe Reader NowTo view the PDFs on this site you will need the Adobe Acrobat Reader.

logos chartermark Positive About Disabled People Investors in People Integrate Community Housing Cymru Triangle Wales Green Dragon Environmental Standard