Ein Eiddo

Ar hyn o bryd, rydym yn berchen ar dros 1170 o gartrefi, ac mae’r rhain i gyd, ac eithrio 18 ohonynt, wedi’u lleoli yn ardaloedd mewnol Caerdydd.

  • Lleolir 43 y cant o’i stoc yn ardal y Rhath.
  • Lleolir 23 y cant ohono yn Nhrefaenor.
  • Mae’r gweddill wedi ei ledaenu trwy Dreganna, Trelái, Cathays, Sblott a Gabalfa.

Tai

Mae gennym eiddo yng Nghaerffili hefyd. Mae tri chwarter y stoc presennol yn cael ei adfer, ac mae dros bum deg y cant ohono yn addas i bobl sengl neu gyplau heb blant. Ar hyn o bryd, mae Cadwyn yn cydweithio â nifer o bartneriaid gwirfoddol i ddarparu amrywiaeth o lety â chymorth. Mae ein heiddo’n darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion tai gan gynnwys teuluoedd a phobl sengl. Mae’r rhan fwyaf o’r eiddo yn eiddo hŷn sydd wedi cael ei droi’n fflatiau.

Rydym yn parhau i ehangu trwy adeiladu cartrefi modern a phwrpasol ar gyfer teuluoedd. Datblygir pob un o’n datblygiadau newydd yn unol â’n polisi Cynaladwyedd; mae hwn yn cynnwys ystyried deunyddiau adeiladu, cysylltiadau i gludiant cyhoeddus a dulliau adeiladu. Dyma enghraifft o ystâd dai gyfredol newydd yn Bishopston Road.

Heol Bishopston

Back to Top

Get Adobe Reader NowTo view the PDFs on this site you will need the Adobe Acrobat Reader.

logos chartermark Positive About Disabled People Investors in People Integrate Community Housing Cymru Triangle Wales Green Dragon Environmental Standard