Sefydlwyd y Consortiwm Integrate trwy arwyddo cytundeb fframwaith ym mis Tachwedd 2005 ac mae’n cynnwys wyth aelod:
- Cymdeithas Tai Cadwyn
- Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd
- Grŵp Tai Cadarn
- Cymdeithas Tai Sir Benfro
- Cymdeithas Tai Abertawe
- Cymdeithas Tai Taf
- Cymdeithas Tai Unedig Cymru
- Valleys to Coast Housing
Mae aelodau Integrate yn gweithio mewn ardaloedd awdurdod lleol sy’n ymestyn o Gasnewydd yn y Dwyrain i Sir Benfro yn y Gorllewin. Mae’r aelodaeth wedi datblygu o gysylltiadau gwaith presennol ac o’r gorffennol, egwyddorion rhanedig a pharodrwydd i gydweithio yn hytrach na chystadlu gyda’i gilydd.
Mae aelodau Integrate yn ymrwymedig i helpu awdurdoadau lleol i gyflawni eu strategaethau tai a byddant yn cydweithio’n uniongyrchol â hwy i sicrhau bod materion tai lleol yn cael sylw a bod buddsoddi’n diwallu blaenoriaethau strategol. Mae aelodau’n cadw eu rôl o ddarparu gwasanaethau tai lleol a byddant yn elwa ar aelodaeth o Integrate trwy:
- Ddulliau caffael gwell sy’n gostwng cost datblygu a chynnal a chadw ac yn cynyddu ansawdd
- Rheolaeth cadwyn gyflenwi well i wella ansawdd cartrefi a’r gwasanaeth i ddeiliaid
- Y gallu i gynyddu buddsoddi mewn mentrau cymunedol gyda’r bwriad o awdurdodi ac adeiladu cynhwysedd
- Rheoli a darparu’r rhaglen grant tai cymdeithasol yn well.
