Mae Tŷ’r Eos yn hostel a sefydlwyd mewn partneriaeth â’r Awdurdod Lleol i roi llety diogel dros dro i deuluoedd digartref y mae angen cymorth arnynt i ddatrys materion, ac i roi cyfle iddynt reoli llety eu hunan o fewn y gymuned maent yn symud iddi. Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i anghenion plant ac i sicrhau bod diogelwch yn nodwedd allweddol o’r ateb dylunio.
Mae gan Dŷ’r Eos 26 o ystafelloedd ac iddynt ystafell ymolchi eu hunan ac mae gan y rhan fwyaf gegin fach eu hunan. Mae gan bob llawr ystafell ymolchi ychwanegol. Mae ystafell wely y gellir cael mynediad iddi ar gadair olwyn ar gyfer y rheiny sydd ag anfantais gorfforol.
Mae’r ardal gymunedol fawr ar y llawr gwaelod yn cynnwys lle chwarae yn ogystal â chyfrifiaduron â mynediad i’r rhyngrwyd i helpu anghenion dysgu ac addysgol oedolion, pobl ifainc a phlant sy’n aros yn yr hostel. Cynigir hyfforddiant TG rheolaidd i bob preswylydd yn yr hostel.
Mae gan yr hostel gegin Halal un pwrpas hefyd.
Mae gan yr Hostel staff ymroddgar bedair awr ar hugain y diwrnod gan gynnwys staff dydd a staff nos. Mae tîm staff Tŷ’r Eos yn cydweithio’n agos iawn â gwasanaethau eraill fel cymorth rhianta, bwrdd iechyd lleol, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, cynghori, hamdden a sefydliadau dysgu i ddiwallu orau anghenion yr holl bobl a fydd yn aros yn yr hostel.
Cwblhawyd ac agorwyd yr hostel ym mis Tachwedd 2005. Roedd cyfanswm cost y prosiect gan gynnwys y pryniant a’r dodrefn tua 2.7M. Codwyd arian ar gyfer y prosiect trwy Grant Tai Cymdeithasol o Lywodraeth Cynulliad Cymru, cyllid Preifat a grant ar gyfer gwaith prosiect penodol o Fanc Barclays.
Cynhaliwyd parti Pen-blwydd cyntaf Tŷ’r Eos ym mis Tachwedd 2006 ac fe’i dathlwyd yn dda!

