Tyfodd Cymdeithas Tai Cadwyn o grŵp a ffurfiwyd gan y Gymdeithas Cymorth Tai Gatholig yn 1972 ac fe’i gofrestrwyd gyda’r Gorfforaeth Dai yn 1974 fel Cymdeithas Tai Teulu (Caerdydd) Cyf. Unodd â Chymdeithas Tai i Rieni Sengl yn 1986 i ddod yn Gymdeithas Tai Teulu (De Cymru) Cyf., a newidodd ei enw i Gymdeithas Tai Cadwyn yn 1993.
Ym mis Tachwedd 2005, agorodd Cadwyn Dŷ’r Eos, hostel teulu. Nod yr hostel yw mynd i’r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd trwy roi amgylchedd diogel a chynhaliol dros dro i deuluoedd, hyd at gyfnod o chwe mis. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt roi sylw i faterion ac yn cynyddu eu sgiliau a’u hyder yn eu gallu i reoli eu cartrefi yn y dyfodol a byw bywydau sefydlog a hapus o fewn eu cymunedau.

Ym mis Tachwedd 2006, dangosodd Cadwyn ei lwyddiant parhaus trwy ennill Gwobr Tai’r DU am Ragoriaeth mewn Tai Cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r cynlluniau newydd, Calon Adref a Chalon Lettings, yn ogystal â Hostel Tŷ’r Eos, wedi bod yn ganolog yn y gwaith o fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd ers 2005.
Hefyd yn 2006, enillodd Cadwyn wobr RaceActionNet am eu gwaith o fewn Cymorth Tystion a Dioddefwyr.
