Sefydlwyd Cadwyn yn 1972 i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer pobl yn ardal Caerdydd. Rydym yn cartrefu pob sector o’r gymuned y mae angen cartref arno. Rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerdydd, awdurdodau lleol eraill, a phartneriaid gwirfoddol a statudol eraill.
Tyfodd Cymdeithas Tai Cadwyn o grŵp a ffurfiwyd gan y Gymdeithas Cymorth Tai Gatholig yn 1972 ac fe’i gofrestrwyd gyda’r Gorfforaeth Dai yn 1974 fel Cymdeithas Tai Teulu (Caerdydd) Cyf. Unodd â Chymdeithas Tai i Rieni Sengl yn 1986 i ddod yn Gymdeithas Tai Teulu (De Cymru) Cyf., a newidodd ei enw i "CADWYN" yn 1993.

Ac eithrio Tŷ’r Eos, darperir pob un o’r gwasanaethau o’r swyddfa gofrestredig yn 197 Heol Casnewydd, Caerdydd.
Mae Cadwyn yn sefydliad di-elw â statws elusennol. Mae’n aelod o Dai Cymunedol Cymru (gynt Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru) ac mae’n landlord cymdeithasol cofrestredig a reoleiddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Cofrestrir Cadwyn o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965 (18805R) gyda’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol ar Reolau Model 1998 ar gyfer Cymdeithasau Elusennol.
